Lle mae Santes Dwynwen yn derbyn darlith.
Un diwrnod, roedd Daf y gath yn brysur gwneud dim byd yn yr ardd, pan ymddangosod Santes Dwynwen mewn cymyl o galonnau pinc bach, yn cario powlen o gwstard.
– Santes Dwynwen dw i. Wyt ti isie bach o… gwstard cariad? meddai Santes Dwynwen, yn lithiol.
– Cwstard cariad? meddai Daf. – Mae hwnna’n swno’n disgusting. Gofynnwch i Jeff, mae hi’n hoffi pethe fel ‘na.
Pwyntiodd ar ei ffrind calico.
Wrth iddi fynd ar hyd yr ardd, caeth Santes Dwynwen ei stopio gan Pwllgor Piwritanaidd y Tatws, a oedd wedi ymgynull o flaen sied Dewi Sant. Siaradodd y Prif Daten fel criwr.
– Yr Ydym yn mynnu eich bod chi’n mynd â’ch cwstard i ffwrdd. Anfoesol y mae e. Rydym yn mynnu hefyd eich bod chi’n gwisgo rhywbeth llai… amlwg. Fyddwn ni ddim yn derbyn ymddygiad fel hyn yn ein gardd.
Edrychodd Santes Dwynwen ar Daf yn ddryslyd.
– Y’n nhw wastod fel hyn?
– Sai’mod, atebiodd Daf, – sai’di gweld nhw o’r blaen.
Aeth Draig y ci tuag at y tatws, a phisio arnynt.
– Dyna ni, meddai Daf, – dylen nhw fod yn dawel bellach.
– Helo, meddai Draig. – Draig dw i.