Un tro, roedd Mistar Afal Hapus yn bod yn boen yn y pen-ôl eto, gan ei fod mor hapus. Erbyn hyn, cythruddai pawb yn yr ardd. Roedd Dewi Sant wedi taro’r botel yn galed iawn.
– Shwt ni’n mynd i gael gwared ohono fe? gofynnodd Jeff y gath i’w chwaer Daf.
– Beth am i ni roi chwain iddo fe? awgrymodd Daf.
– Wel, ma gyda ti chwain yn barhaol. Syniad da. Byddi di tamed bach yn fwy cyffyrddus ‘fyd.
Rwbiodd Daf ei hun yn erbyn Mistar Afal Hapus.
– Ŵŵŵ, meddai’r ffrwyth llidus, – MAE HYNNY’N NEIS IAWN, DWI MOR HAPUS.
Yna, fe ddechreuodd y cosi. Ac wrth grws, does dim breichiau gydag afal.
Aeth Mistar Afal Hapus yn dawel wrth iddo ddechrau dioddef yn hunllefus.
– O’r diwedd, meddai Daf.