October 16, 2024

Mae’r staff wedi prynu ffrind newydd i Daf y gath a’i chwaer Jeff. Mistar Afal Hapus yw ei enw ef. Achos afal yw e. Ac mae e’n hapus.

Tegan plwsh yw Mistar Afal Hapus. Mae e’n gwenu yn barhaol.

Blinder yw Mistar Afal Hapus.

Gelyn yw Mistar Afal Hapus.

– DW I MOR HAPUS! meddai Mistar Afal Hapus.

– Daf, meddai Jeff, – Sut y’n ni’n mynd i ddinistrio’r bastad ‘ma?

– Gyda holl nerth ‘mheiriant drymiau, meddai Daf.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.