October 16, 2024

One day, Dave the cat and her friend Jeff were puzzling over Dave’s new drum machine. It was covered in buttons, and neither of them was particularly sure how to work it.

The drum machine itself was no help at all. It chattered away to itself in a flurry of hi-hats and poor-quality 8-bit cowbells.

Just then, a piece of English gammon came into the garden. It was very cross about something. About everything.

– Sai’n hoffi gamwn, meddai Daf i’w ffrind, yn newid i Gymraeg yn theatraidd. – Ma’n rhy swnllyd. Ma’n well da fi gig oen.

– Ody wir. Bydd e’n gweiddi cyn bo hir. Gyda llaw, sut mae’r sefyllfa chwain da ti heddi? Dwi methu canolbwyntio ar y blydi peiriant drymie o gwbl.

Dechreuodd y gamwn cryno a mynd yn goch.

– O, ma’n of-na-dw, meddai Daf, â phwyslais trwm. – Nes i ddim cysgu winc nithwr chwaith. Wedd gwynt arna fi ‘fyd.

– RŴŴ ŶŶŶN ECH DŶ-ATH TSHI, bloediodd y gamwn mewn ffrwydrad o lid.

– Ti ddim, meddai Jeff. – Ti ddim y Meseia, ti’n fachgen drwg iawn.

– Sneb yn dishgwl y chwilys Sbaenedd, awgrymodd Daf. – Hei Jeff, ma hyn yn lot o hwyl. Wes da ti pedair canwyll?

– Dolenni ffyrc?

– Na, pedair canwyll.

Erbyn hyn, roedd y gamwn yn neidio lan a lawr.

– RŴŴŶŶŶNECHDŶ-ATHTSHI, gweiddiodd ar y cathod.

– Ti ddim, meddai Jeff, yn bryfoclyd.

– Ma’n rhy hwyr i gynnig dishgled iddo fe dawelu, sbo? gofynnodd Daf.

– Bmm tsh tsh, meddai’r peiriant drymie, wrth i’r gamwn ffrwydro dros y lle i gyd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.