– Daf, dere fan hyn, glou! ebychodd Jeff un tro.
– Be sy? meddai Daf. – Dwi’n brysur.
Doedd hi ddim yn brysur o gwbl.
– Mae’r staff ‘di dod nôl, meddai Jeff. – A ti mod beth ma ‘ny’n golygu.
Stopiodd Daf beth bynnag oedd hi’n esgus gwneud.
– GWELY, gweiddiodd, wrth i’r ddwy ohonynt anelu’n syth at y drws cefn.