[Aeth yr Esgob yn dawel pan welodd yr “ymgais”, ac wedyn yn wyllt gacwn. Â wyneb coch, dyrnuodd y wal a thaflu’r darn gwag o bapur ar y tân, wrth weiddi rhywbeth am ladd cathod yr ardal i gyd. Daf yn enwedig. Fyddai ddim o le rhagor i gathod fel Daf yn ei esgobaeth.]