October 16, 2024

Un tro, roedd Santes Dwynwen yn dathlu ei phenblwydd sawl cant oed. Nid oedd ei phenblwydd go iawn, wrth gwrs – roedd hynny’n gyfrinach, yn bennaf achos bod hi’n rhy hen i’w gofio.

Cyraeddodd Daf y gath a dweud bod ganddi anrheg i Santes Dwynwen.

– Diolch yn fawr, meddai Santes Dwynwen, – beth yw e?
– Dwi ‘di cael bach o gwstard i ti. Dwi’n gwbod bo ti’n hoffi cwstard.
– Wel, odw, ond mae eisioes llawer o gwstard gyda fi fan hyn.

Pwyntiodd at bentwr o jariau.

– We fi’n meddwl bod hi’n syniad da, meddai Daf yn drist. – Sori.

Dechreuodd Daf adael mewn diflastod llwyr. Anadlodd Santes Dwynwen yn dwfn.

– Ond… mae’n gwstard sbesial achos mae’n dod ohonot ti, meddai’n gyflym.
Grwnanodd Daf yn hapus.

– Beth am i ni gael bach o gacen te?
– Gyda chwstard?
– Pam lai?

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.