Cwstard llaeth llenyddol – rysáit
Cynhwysion:
- powdr cwstard – twb
- llaeth cyfan – litr
- llaeth cywasgedig trwchus – tun
- hanner copi o War & Peace
Paratoi
Arllwyswch y llaeth cyfan a’r llaeth cywasgedig i mewn i sosban, yn oer. Ychwanegwch y powdr cwstard, a’i droi. Berwi’r cyfan, ac wrth i’r cymysgedd dewychu, ychwanegwch yr hanner copi o War & Peace fesul tudalen. Taflwch y sosban a’i chynhwysion dros y ffens agosach.