Y Gystadleuaeth Lenyddol, gan Franz Kafka
Roedd yr awyr yn llwyd, ac roedd y planhigion i gyd wedi marw. Dechreuais lenwi’r ffurflen ar gyfer y gystadleuaeth lenyddol. Roedd y ffurflen yn un hir, ddiflas. Collais obaith ac agor pac o selsig.
Anfonais y ffurflen at yr Esgob. Daeth hi’n ôl. Roedd camgymeriadau arni. Tro ar ôl tro, cywirais y camgymeriadau. Tro ar ôl tro, daeth hi’n ôl, â chamgymeriad newydd wedi’i farcio.
A dyma fi, nawr, yn dal yn ceisio cwblhau’r ffurflen. Mae’r terfyn amser wedi hedfan heibio. Dw i’n cywiro fy ffurflen, ei phostio hi, mae hi’n mynd i’r Esgob, ac mae hi’n dod yn ôl, yn yr un amlen. Rhaid bod hi wedi teithio cannoedd o filltiroedd erbyn hyn.
Darllenwr annwyl, llosgwch y ddogfen hon, os gwelwch yn dda.