– Daf, meddai Jeff y gath wrth iddi orffen bwyta selsig. – Tisie canu rhywbeth ar gyfer Dydd Miwsig Cymru?
– Nadw, atebodd Daf, heb ddiddordeb. – Ond cer amdani os tisie.
– Iawn. Dwi di neud fersiwn sbesial o Sosban Fach i ti.
Dechreuodd Jeff ganu.
Mae brêns Dewi Sant wedi pydru
A Dafydd y gath ddim yn iach
– Pam nadw i’n iach? Be sy’n bod arnai? meddai Daf yn boeni.
– Sdim esboniad. Mae pethe’n mynd i’r chwith mewn caneuon gwerin heb reswm ond y’n nhw?
Mae Kafka yn y crud gyda’i selsig
Mae fe’n rhyfeddol o fach
– Wel, mae ‘ny’n wir o leia, meddai Daf.
– Ymunwch â’r cytgan, meddai Jeff i’w chynulleidfa ddychmygol.
***
Ar ôl y cytgan, parhaodd.
Mae brêns Dewi Sant mewn jar o gwstard
A Dafydd y gath yn ei fedd
– Beth? Ti di ladd fi? Pam? gofynnodd Daf.
– Achos bo ti’n dwpsyn, meddai Jeff, a bant â hi.