October 16, 2024
Jeff ar flanci
“Wyt ti wedi gweld moch yn yr ardd?”

Mae Jeff y gath eisiau bacwn. Ond dyw hi ddim yn hoffi halen. Mae halen yn niweidiol i gathod. Felly mae Jeff eisiau gwneud ei bacwn ei hun. Ond yn gyntaf, mae hi angen dal mochyn.

– Daf, meddai Jeff, – Wyt ti wedi gweld moch yn yr ardd?
– Nadw, meddai Daf y gath, heb ddiddordeb. – Pam wyt ti eisiau mochyn? Am hwyl a sbri?
– Dw i am wneud bacwn, meddai Jeff, yn ddifrifol iawn.
– Sut wyt ti’n mynd i ddal mochyn? gofynna Daf.
– Mae gyda fi ffon a blwch cardbord. Bydd y rheiny yn gwneud y tro.
– Da iawn, meddai Daf, ac mae hi’n mynd yn ôl i gysgu.

Mae Franz Kafka eisiau cig moch hefyd, er mwyn gwneud selsig.

– Wnei di helpu fi? meddai Jeff wrth Franz Kafka, sydd yn rhyfeddol o fach.
– Gwna, ymateba Franz Kafka.

Mae Franz Kafka’n mynd i ymofyn ei ffon a blwch cardbord ei hun, a bant â nhw.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.