December 25, 2024
“Mae Jeff yn rholio ei llygaid hi.”

Mae pawb yn cyrraedd gartref yn y bwced. Roedd Jeff yn gywir – roedd y bwced yn gyflymach na’r blychau.

– Tybed sut ddigwyddodd hynny, meddai Jeff.
– Byddai’n well i ti beidio gofyn, meddai Daf.

Mae Daf y gath yn edrych ar Santes Dwynwen. Mae hi dal yn diferu cwstard o’i chwmpas.

– Jeff, oes peipen dŵr rwber yn yr ardd? gofynna Daf.
– Oes, wrth gwrs.
– Beth am i ni sefydlu Golchi Seintiau gyda’r bwced a’r beipen? Fel Golchi Ceir, ond… ar gyfer seintiau. Sydd wedi’u gorchuddio â chwstard. Gallen ni wneud bach o arian.
– A faint mor aml wyt ti’n meddwl bod seintiau’n cael eu gorchuddio â chwstard yng nghyffredinol?
– Wel, bron bob dydd fan hyn.

Mae Jeff yn rholio ei llygaid hi. Mae Santes Dwynwen yn parhau i ddiferu’n drist.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.