October 16, 2024

Mae Daf y gath yn esbonio ei syniad am fenter busnes newydd wrth Dewi Sant. Mae Dewi wedi tanio ffag ac agor potel o gwrw, ac mae e’n gwrando’n astud.

– …a felly galla i dy ddosbarthu at dy gariad di ar ddydd Santes Dwynwen. Am daliad bychan.
– Beth fydd rhaid i fi wneud? gofynna Dewi Sant.
– Mae rhaid i ti ddringo i mewn i’r blwch hwn, ac wedyn jyst aros. Yna fe wna i’r gweddill.
– Iawn.

Yn anwastad, mae Dewi Sant yn dringo i mewn i’r blwch. Mae popeth yn mynd yn dywyll wrth i Daf y gath gau’r caead, ac mae Dewi Sant yn syrthio i gysgu.

***

Pan mae Dewi Sant yn dihuno, mae e’n dringo allan o’r blwch. Mae’n debyg ei fod e wedi mynd ar goll yn y post. Mae e yng Ngwlad Pwyl.

– Wel, dyma ychydig o antur, meddai, a bant â fe i ffeindio fodca.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.