Roedd Daf y gath yn difaru dwyn sied Dewi Sant bron ar unwaith. Roedd hi wedi’i gyrru bant i Lundain gan obeithio anelu ei roced tuag at San Steffan, er mwyn dechrau ei ymgyrch i gymryd drosodd y byd i gyd. Fel yr oedd hi wedi dychmygu, roedd y cerbyd-adeilad yn gyflym iawn, ond sgrafangodd o gwmpas yn beryglus o linc-di-lonc.
Caeth hi ei stopio gan heddwas.
– Be’ ti neud, ‘ngath fach i? meddai’r heddwas yn ddifrifol iawn.
– Ymm, meddai Daf, yn ceisio cuddio’r roced.
– Mae’n amlwg dy fod wedi meddwi. Rhaid i fi d’arestio di.
– Nid fi sy’ wedi meddwi, meddai Daf. – Y sied sydd ar fai.
Yr eiliad hon, chwydodd y sied i mewn i lwyn, ac o ganlyniad, arestiodd yr heddwas y sied, gan anfon Daf adref.
– Beth am fy… ymm… tân gwyllt?
– ‘Na ti, meddai’r heddwas, a bant â Daf.