October 16, 2024

Yn gyfrinachol, roedd Daf y gath yn falch iawn gyda’i thegan newydd. Byddai’r roced a ddod Jeff â hi yn help mawr i gymryd drosodd y byd i gyd. Y peth nesaf yr oedd angen ei wneud oedd creu arfedigaeth ar gyfer y troli siopa.

Edrychodd Daf o gwmpas yr ardd. Doedd dim byd addas. Aeth hi i siarad â Santes Dwynwen am help.

– Helo Daf, meddai Santes Dwynwen. – Wyt ti isie rhywbeth neu’i gilydd i dy helpu di gwmpo mewn cariad?
– Nadw, meddai Daf. – Dw i isie gwneud tanc.
– Mas o beth? gofynnodd Santes Dwynwen, yn synnu.
– Y troli siopa fan ‘na. Mae gyda fi roced yn barod. Jyst isie arfedigaeth.
– Wel, fydd fy nghwstard cariad ddim lot o help, dw i’n meddwl, meddai’r santes yn drist. Beth am jyst defnyddio dy fan dy hun?
– Bydd y troli siopa’n gyflymach, meddai Daf yn ddifrifol iawn.
– Allet ti ddwyn panel o sied Dewi Sant, ‘th gwrs.
– Dyna syniad da, meddai Daf. – Diolch yn fawr iawn.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.