October 16, 2024

Un tro, roedd Daf y gath bach yn nerfus. Roedd wedi bod yn aros am yr eiliad iawn am ei gyhoeddiad. Neu, â bod yn hollol gywir, ei chyhoeddiad.

– Jeff, meddai Daf, – Dere fan hyn, mae genna i rywbeth i ddweud wrthot ti.
– Iawn, meddai Jeff. – Be’ sy’?
Oediodd Daf.
– Merch dw i, meddai Daf.
– Iawn, meddai Jeff. – Sdim ots ‘da fi, ta beth, ti’n dal i fod yn dwpsyn. Ti’n mynd i gadw dy enw?
– Ydw. Mae’r staff wedi cofrestru enw y wefan hon nawr.
– Ga i fynd nawr?
– Cei.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.