October 16, 2024

Un tro, daeth rhywbeth od i fewn i’r ardd. Rownd, gwyrdd oedd e, â thentaclau ym mhobman.

– Helo, meddai’r peth. – Pla dw i.
– Dim heddi, diolch, meddai Daf y gath, a oedd yn llyfu ei draed. – Oni bai wyt ti’n gallu helpu clirio bach o le yn sied Dewi Sant. Ni’n disgwyl dosbarthiad o fwyd cathod.
– Ymm, meddai’r Pla. – Gadewch i ni weld.

Mwmianodd ryw fath o sbel hudolus, cyn i gwmwl o locustiaid ddisgyn a bwyta popeth a oedd tu fewn i sied Dewi Sant.

– ‘Na fe, meddai’r Pla.
– Am ddefnyddiol, meddai Daf.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.