Mae Daf y gath wedi sefydlu menter newydd er mwyn ennill tipyn bach o arian.
Mae Daf yn mynd i werthu esgidiau glaw i gathod bach.
Ydy cathod bach yn hoffi gwisgo esgidiau glaw?
Nac ydyn. Mae’n well ganddyn nhw allu llyfu eu traed. Dylet ti wybod hynny, Daf!
Ydy Daf wedi gwerthu unrhyw beth?
Nac ydy.
Mae’r busnes yn mynd i’r wal.

Saesneg / English
Wellies
Dave the cat has set up a new venture in order to earn a little bit of money.
Dave is going to sell wellies for kittens.
Do kittens like wearing wellies?
No they don’t. They prefer to be able to lick their feet. You should know that, Dave!
Has Dave sold anything?
No.
The business is going to the wall.