Un tro, roedd Daf y gath a’i ffrind Jeff yn gwylio Dewi Sant, wrth iddo agor potel arall o gwrw. Cwyno oedd Dewi Sant, fel arfer.
– Mae safon yr iaith fan hyn yn wael iawn, meddai, al ôl iddo lyncu llond ceg o’i ddiod. – Hoffwn i glywed mwy o iaith ffurfiol, grefyddol.
– O, Iesgob, na, ochneidiodd Daf, – Dim hwnna eto.
Yr eiliad honno, synnwyd bawb gan Keith y gwrden yn bloeddio nerth ei ben. Gwisgo siaced a throwsus du a choler cron oedd e. Edrychodd fel petasai wedi bod yn diferu.
– Diodydd! Ffecio! Tin! Rocesi! ebychodd mewn acen Gwyddelaidd cryf.
– Wel, dyna iaith grefyddol ichi, mewn ffordd, meddai Jeff.