1217: Neidr

Mae’r enwog Bryn Teribl yn eistedd ar gadair ynghanol eglwys newydd yr Esgob. Mae e’n curo tannau ei gitâr fas ar hap a rhuo fel anifail gwyllt.

Mawredd.

‘Dyn ni wedi gweld dy eisiau di gymaint, Bryn.

Mae Daf y gath yn ei wylio mewn difyrrwch.

Ond mae’r Esgob eisiau cynnal oedfa.

O diar.

Mae’r Esgob yn gwybod yn iawn bod nadroedd yn codi ofn ar Bryn Teribl.

Mae e’n dechrau gweiddi.

— Neidr! Neidr!

Mae Bryn Teribl yn dychryn cymaint fel ei fod e’n dechrau rhedeg o gwmpas yr eglwys yn trio lladd nadroedd dychmygol â’i gitâr fas.

Cyn bo hir, mae Bryn druan wedi malu ei gitâr fas yn ysgyrion. Mae golwg drist iawn arno fe.

Dyna ddiwedd ar y sŵn ofnadwy, ta beth.

Mae’r esgob yn ysgubo gweddillion y gitâr i ffwrdd a chynnal ei oedfa.

Mae Daf y gath yn ei wylio mewn difyrrwch.

Saesneg / English

Snakes

The famous Bryn Teribl sits on a chair in the middle of the Bishop’s new church. He is hitting the strings of his bass guitar randomly and roaring like a wild animal.

Crikey.

We’ve missed you so much, Bryn.

Dave the cat watches him in amusement.

But the Bishop wants to hold a service.

Oh dear.

The Bishop knows very well that Bryn Teribl is scared of snakes.

He starts shouting.

— Snake! Snake!

    Bryn Teribl is so frightened that he starts running around the church trying to kill an imaginary snake with his bass guitar.

    Before long, poor Bryn has smashed his bass guitar to matchwood. He looks very sad.

    That’s put an end to the terrible noise, anyway.

    The bishop sweeps away the remains of the guitar and holds his service.

    Leave a Reply

    Your email address will not be published. Required fields are marked *

    This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.