Cyrhaeddodd yr adeiladwyr yn gynnar.
Roedd yr Esgob wedi dod o hyd iddyn nhw yn y “Tudalennau Melyn”, a’u cyflogi nhw yn syth bin fel eu bod yn gallu dechrau adeiladu eglwys ar hen safle Ysgol y Preseli.
O diar.
Cowbois oedden nhw?
Siŵr o fod.
Dechreueon nhw drwy osod sylfeini pyst. Iawn hyd yma.
Ond wedyn, diflanasant.
Mawredd.
Byddai’r Esgob yn grac.
Ciliodd Daf y gath i bellter diogel.

Saesneg / English
Builders
The builders arrived early.
The Bishop had found them in the “Yellow Pages”, and employed them straight away so that they could start building a church on the old site of Ysgol y Preseli.
Oh dear.
Were they cowboys?
Probably.
They started by laying pile foundations. So far so good.
But then, they disappeared.
Crikey.
The Bishop would be angry.
Dave the cat retreated to a safe distance.