1180: Ysbrydion yn y cwstard

Mae’r enwog T. H. Parry-Williams a Jeff y gath yn hela ysbrydion. Mae T. H. yn gobeithio dal ysbryd yn ei rwyd fawr.

— Beth am i ni fynd i siop gwstard Santes Dwynwen? gofyn Jeff.

Mae T. H. yn gwneud sŵn fel ych. Mae hynny’n meddwl ei fod e’n cytuno.

Arhoswch am eiliad. Pwy arall sy’n gwneud synau fel da byw? Owain Glyndŵr, sydd wrth dennyn yn y buarth, dyna pwy! Perthnasau ydyn nhw?

Pwy a ŵyr.

Mae Jeff a T. H. yn mynd i mewn i siop gwstard Santes Dwynwen.

Oes ysbrydion yn y cwstard?

Does neb yn gwybod, ond mae’n ddigon ffiaidd, mae hynny’n sicr.

Yna…

Yn sydyn, mae gwrthrychau’n dechrau hedfan o gwmpas y siop. Mae poltergeist, neu ysbryd swnllyd, yn gweithredu!

“Mae T. H. yn gobeithio dal ysbryd yn ei rwyd fawr.”

Saesneg / English

Ghosts in the custard

The famous T. H. Parry-Williams and Jeff the cat are hunting ghosts. T. H. is hoping to catch a ghost in his big net.

— Why don’t we go to Saint Dwynwen’s custard shop? asked Jeff.

T. H. makes a noise like an ox. That means he agrees.

Wait a moment. Who else makes sounds like livestock? Owain Glyndŵr, who is tethered in the yard, that’s who! Are they relatives?

Who knows.

Jeff and T. H. go into Santes Dwynwen’s custard shop.

Are there ghosts in the custard?

Nobody knows, but it’s sufficiently disgusting, that’s for sure.

Then…

Suddenly, objects start flying around the shop. A poltergeist, or noisy spirit, is acting!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.