Datganiad Personol – Jeff y gath
Cath hyblg yr wyf, gan dros 7 mlynedd o brofiad o fwyta brecwestau a chiniawau cathod eraill, sydd yn angerddol am ddal llygod er mwyn eu rhoi fel anrhegion i’r staff. Rwyf yn mwynhau ffeindio dullau creadigol i ddwyn bwyd. Rwyf yn ymrwymedig i anwybyddu Daf y gath yn gyfan gwbwl yn y dyfodol.
Mae gen i ddiddordeb mawr yn siapio dyfodol sydd yn llawn dop bwyd cathod, a’i goblygiadau i bawb – yn gynnwys cyn-arweinwyr – wrth iddynt ymaddasu i fyd sydd yn cael ei redeg gan gathod.