Un tro, ymddangosodd Prif Weinidog Lloegr yn yr ardd. Gadewch i ni’i alw ef yn “Joris Bonson” gan oedd hwnnw bron ei enw. Fel mochyn penfelen yr oedd e, yn anllatgras ac yn angharedig. Ciciodd Keith y gwrden druan, ac yr oedd ar fin ceisio sediwsio’r Frenhines Branwen yn ei ddull seimllyd, pan heriodd Daf y lwmpen erchyll.
– Cer o ‘ma, meddai Daf y gath, yn grac. – Mae gyda ni ddigon o broblemau gyda selsig Franz Kafka hebddot ti ddod fan hyn.
Slefriodd yr ynfyntyn cyfoethog yn ddi-ddeall. Ni ddwedodd yr un gair, ond gwneud sŵn fel rhechu efo’i wefusau.
Aeth y Prif Lwmpen Seimllyd i nôl piben enfawr, cyn diflannu. Ymhen eiliadau, roedd yr ardd i gyd yn nofio mewn slyri.
– Dyna’r trefn cyffredinol o bethau, meddai Daf, yn sychu’r baw allan o’i lygaid.