December 25, 2024

Un tro, roedd Santes Dwynwen wedi gadael yr ardd am sbel, er mwyn cael bach o hyfforddiant. Roedd hi wedi gofyn i ychydig o angylion ddysgu iddi wneud rhywbeth gwahanol i’w chwstard cariad. Yn ddiweddar, nid oedd yr hylif hudolus hwnnw wedi bod yn gweithio’n ogystal ag o’r blaen. Welodd y cathod mo’i adael.

– Ble mae Santes Dwynwen? gofynnodd Jeff i Dewi Sant, a oedd yn amlwg yn anhapus iawn am y peth.
– Bant, meddai Dewi Sant, yn amneidio’n annelwig.
– Beth mae hi’n neud?
– Bant.

Edau rhy dynn a dyr, meddyliodd Jeff yn ddiarhebionol, a mynd… bant.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.