October 16, 2024

Un tro, roedd Daf y gath yn gwylio Keith y gwrden, a oedd yn gwneud dim byd. Gwneud pethau, gan amlaf, oedd yn groes i’w natur, ond weithiau byddai’n synnu pawb wrth gwneud rhywbeth rhyfeddol. Fel methu symud chwarter modfedd.

– Be’ ti neud, Keith? gofynnodd Daf.
– Dim byd, meddai Keith. – Yn ôl ‘n arfer. Yn dew ac yn rownd yr ydwyf, ac alla i ddim symud.
– Ti’n ffurfiol iawn y bore ‘ma, meddai Daf. – Mae’n swno tamed bach yn od.
– Chwynna dy ardd dy hun yn gyntaf, meddai Keith, yn falch ohono’i hun.

Cafodd Daf syniad.
– Beth am i ni ymarfer idiomau a diarhebion fel menter newydd? Byddai hynny’n pasio’r amser.
–          , meddai Keith, wedi colli diddordeb.
– Man a man a mwnci, meddai Jeff, yn mynd heibio.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.