Un tro, roedd Daf y gath yn cael profiad seicedelig ar ben y bin. Roedd yr heulwen yn brydferth, ac roedd y pilipalas ym mhobman yn yr ardd, ac yn ei ymennydd ei hun.
Gan amlaf, byddai Jeff y gath yn osgoi edrych ar y tatws. Roedd hi’n bywsig iawn i beidio dal eu llygaid, rhag ofn iddynt ddechrau bloeddio am bethau diflas. Ond ar ôl i Mistar Penglog hollti’r Prifdaten, roedd y tawelwch yn boenus. Fel arfer, byddai’r tatws wedi dewis Prifdaten newydd erbyn hyn, ond yn amlwg yr oedd y tro hwn yn wahanol. Syllodd Jeff ar y gweithgareddau a oedd yn mynd ymlaen yng ngwely y llysiau.
Dau pâr o datws a oedd yn enwedig o gryf cariodd dau arch fach i lan ramp a’u llwytho i fewn i’r sosban fach, a oedd yn aros yn amyneddgar. Cododd bob un par baner wen â delwedd o’r hen Brifdaten arni. Saliwtiasant.
Llenwyd y sospan â dwr. Tannwyd tân. Berwyd yr hen Prifdaten am chwarter awr, wrth i Gor Meibion Ffosgoch ganu cân hapus am whilber o faw. O’r diwedd, gwacawyd y sosban, agorwyd yr eirch, a stwnsiwyd olion yr hen Prifdaten gan daten mawr, fel aberthiad i dduwiau tatws. Llygadrythodd Jeff ar y digwyddiadau mewn arswyd.
Yr eiliad hon, dihunodd Daf y gath o’i brofiad seicedelig.
– Fyddi di byth yn dyfalu beth dw i newydd weld, meddai.