Aeth y drewdod a oedd yn dod o sied Dewi Sant o ddrwg i waeth. Roedd y madarch yn cysgodi o dan y ddaear, tra oedd Santes Dwynwen yn rhedeg o gwmpas yr ardd mewn arswyd. Erbyn hyn, roedd hyd yn oed ei chwstard wedi dechrau blasu o’r pydredd.
– O na, meddai Dewi Sant, yn agor llythyr arall. – Ma’r esgob yn dod nôl.
– Well i ni glirio’r peips ‘te, meddai Daf y gath sinsir, heb ddiddordeb.
– Beth am i ni gynnal cwis heno? gofynnodd Jeff y gath galico.
– Be?
– Byddai’n treulio’r amser, o leia.
– Canolbwyntia, Jeff.
– Sori, meddai Jeff, a bant â hi i chwilio am fwyd.
– Gallwn ni jyst dychmygu bod y peips yn glir, meddai Daf. – Wedi’r cyfan, nâth hwnna weithio’r tro diwetha.
– Syniad da. Modd hawdd i ddatrys y problem, cytunodd Dewi Sant.
– Rhatach nag unrhyw plymwr, ‘fyd.
Fflysiodd Dewi Sant y toiled, a darganfod bod y peips nawr yn glir. Neu’n gliriach, beth bynnag.
Cudiodd Franz Kafka selsigen arall tu ôl i’r sied.