Mae’r enwog Bryn Teribl yn parhau i achosi trafferth yn y gegin. Dyw e ddim wedi bod yn gwisgo het yn ddiweddar. Ond mae ei ben wedi bod yn teimlo’n oer, gan fod y gwanwyn hwn mor ddiflas.
Beth sydd yn y gegin a fyddai’n gwneud y tro fel het ysblennydd? Mae e’n dechrau ymbalfalu yn y droriau.
Beth am flwch brechdanau? Nage, mae’n rhy dynn.
Beth am sosban? Nage, mae’n rhy drwm.
Beth am golandr?
Delfrydol!
Mae Bryn Teribl mor falch o’i het ysblennydd.
Saesneg / English
Hat
The famous Bryn Teribl continues to cause trouble in the kitchen. He hasn’t been wearing a hat lately. But his head has been feeling cold, as this spring has been so miserable.
What’s in the kitchen that would make a splendid hat? He starts rummaging in the drawers.
How about a sandwich box? No, it’s too tight.
How about a saucepan? No, it’s too heavy.
How about a colander?
Ideal!
Bryn Teribl is so proud of his splendid hat.