Roedd Franz Kafka wedi bod yn tyfu llysiau mewn cornel o’r ardd, ac roedd e’n falch iawn o’r canlyniadau. Roedd bron popeth wedi troi’n frown, heblaw am banasen enfawr a gwrden rownd ymhlith y pydredd cyffredinol o blanhigion wedi marw. Golygfa prydferth yr oedd e, ar ei ôl.
– Beth yw hwnna, meddai Daf, yn amneidio ar y panasen.
– Panasen yw e, meddai Kafka.
– Panasen dw i, meddai’r panasen.
– O na, dim cymeriad arall, cwynodd Daf. – Alli di neud unrhywbeth ddoniol?
– Plymwr da iawn dw i, atebodd y panasen. – Dw i’n da iawn am glirio peips.
– Beth am hwnna, gofynnodd Daf, yn amneidio ar y gwrden.
– Keith dw i, meddai’r gwrden.
– A beth wyt ti’n dda amdani?
– Dw i’n dew ac yn rownd, a nid allaf symud.