October 16, 2024

Roedd gyda Daf y gath sinsir fenter newydd. Oherwydd y prinder tanwydd, roedd gwneud dosbarthiadau yn amhosib, felly daeth e’n cyfwelwr ar gyfer BBC Cymru Fyw. Ei dasg cyntaf oedd cyfweld ei ffrind Jeff y gath galico yn enwedig ar gyfer tudalen “3 Llun”.

– Reit, rwy’n mynd i ddechrau recordio nawr, meddai Daf, wrth iddo weld y Prifdaten ymgasglu’r tatws gyda’i gilydd. – Sdim lot a amser. Ti’n hyderus o flaen meicroffon?
– Paid anghofio bof i ‘di neud albwm gyda Dewi Sant yn ddiweddar, atebodd Jeff, yn flwng.
– Iawn. Rhaid i ti ddewis tri llun. Dy luniau mwya nodedig neu luniau sy’n dy cyfleu di fel cath.
Ymbalfalodd Jeff mewn gwely rhosyn am funud.
– Iawn, barod, meddai.

– Wi ffaelu dychmygu beth ni’n mynd i gweld. Beth yw dy lun cyntaf? gofynnodd Daf.
– Wel, dyma lun neis o’m mowlen bresennol i. Dw i’n cofio’r tro cyntaf i fi’w gweld hi. Mae hi mor sbesial.
– Beth am yr ail?
– Dyma lun neis o’n nghyn-bowlen. Drycha! Mae’n lawn dop. Am hyfryd.
– Beth am y trydydd? Mwy o fwyd?
– Llun o’r Twr Eiffel.
– Pam yn y byd wyt ti ‘di dewis hwnna?
– Hyblygrwydd, meddai Jeff.

Stopiodd Daf ei beiriant recordio. Byddai rhaid i hynny wneud y tro.

Yr eiliad honno, cyraeddodd y Prifdaten. Roedd e eisiau adrodd pa mor wych yr oedd e, neu gwyno am rywbeth. Arteithiodd Daf y Prifdaten, heb ddiddordeb.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.