Un tro, roedd Daf y gath yn anwybyddu pawb yn yr ardd. Problem gyda’i fan yr oedd e’n ceisio datrys. Fyddai’r injan ddim yn tanio.
– Daf? meddai Jeff, ei ffrind calico.
Bu tawelwch. Parhaodd Daf i botsio gyda’r fan.
– Daf! bloediodd Jeff. – Ti’n rîly anymwybodol.
– Nadw, meddai Daf, yn codi ar ei eistedd. – Anwybodus dw i. Mae ‘na gwahanieth. Drycha.
Cododd Daf y sosbach fach, ac heb ddweud yr un gair, tharfu sgwrs Santes Dwynwen a Dewi Sant gan fwrw ergyd ar Dewi gyda’r sosban. Cwympodd e i lawr yn y fan a’r lle.
– Reit. Dyma’r gwahanieth. Myfi yw’r un anwybodus. Fe yw’r un anymwybodol. Deall?
Anwybyddodd Jeff y cwestiwn yn anwybodus, a mynd bant i fwyta tan iddi fod yn anymwybodol.