Dychwelodd y cathod o siop yr optegydd, wedi ceisio osgoi’r holl beth. Gyraeddasant yr ardd a neidio allan o fan Daf.
– Ble mae’r bwyd? Ble mae’r staff? bloediodd Jeff.
– Mae’r staff wedi mynd, atebodd Daf. – So fi’n gallu gweld dy bowlen, wyt ti?
– Nagw. Os na wna i ffeindio fy mowlen yna fydda i byth yn bwyta byth eto! cwynodd Jeff, yn ddramatig.
– Mae ‘na wastod llygod, meddai Daf.
– Shh, meddai Jeff.
Daeth y Prifdaten draw i’r cathod.
– Fel y’ch chi’n wybyddus, meddai, – mae gyda fi dealltwriaeth mawr o bopeth. Gallaf gwneud eich profion llygaid.
Parhaodd y Prifdaten, ac esbonio am oriau.
– Iawn, torrodd Daf ar ei draws o’r diwedd, tra oedd Jeff yn syllu i fewn i’r gofod. – Bant â ni, ‘te.
Dangosodd y Prifdaten cerdyn i’r cathod.
– Darllenwch hyn, os gwelwch yn dda.
– B, meddai Jeff.
– Yr hyn?
– W.
– Da iawn. Beth am y llythrenau llai?
– Y.
– Hyn?
– D.
– Da iawn. Does dim byd yn bod ar eich llygaid o gwbl.
– Yna ble mae’m mowlen? meddai Jeff.
Yr eiliad hon, sylwodd Daf troed dyn yn sticio mas o’r tu ôl i sied Dewi Sant. Rhedodd ar ei ôl. Franz Kafka oedd e, a oedd yn cuddio gyda phowlenni’r cathod.
– Pam? gofynnodd Daf yn grac.
– Er mwyn arddangos y seithuctod o bopeth, ymatebodd Kafka.
Crafodd Daf yr awdur enwog yn gas.
– Paid neud e ‘to.
Ymddangosodd Draig y ci, er mwyn cynnig rhyw fath o ddiweddglo.
– Draig dw i, meddai. – Bachgen da dw i.
– Ti yn, Draig, ti yn, meddai Daf yn ddiffygiol, cyn iddo grafu Kafka unwaith eto i wneud yn siwr ei fod e’n deall.