Mae pawb yn syllu’n gegrwth ar westy newydd Daf y gath, sydd yn adfail.
Pawb, hynny yw, ac eithrio’r enwog Julian Cope, sydd yn dioddef o’i “ffliw”. Mae e’n honni bod ei lwyth firol yn gwaethygu.
Dyw e ddim.
Clefyd diglefyd sydd y broblem. Dim ond dod i lawr o’r cyffuriau yw e. Mae e’n ymlusgo i gromlech Owain Glyndŵr, i aros am farwolaeth.
Ond mae Daf y gath yn rhoi ysgubell iddo fe.
– Ti sy’n sgubo’r dreif. Cer amdani!
Saesneg / English
Viral load
Everyone is staring open-mouthed at the new Daf y gath hotel, which is a ruin.
Everyone, that is, except the famous Julian Cope, who is suffering from his “flu”. He claims that his viral load is getting worse.
It is not.
It’s hypochondria that is the problem. He’s just coming down off the drugs. He crawls into Owain Glyndŵr’s cromlech, to await death.
But Dave the cat gives him a broom.
– You’re sweeping the driveway. Off you go!