December 25, 2024

Ar ôl i’r bwyty gau, mae’r criw yn crwydro. Does ganddyn nhw ddim awydd i fynd yn ôl i’r hen ardd.

Mae Owain Glyndŵr yn anodd ei reoli. Yn ogystal â gwneud lap o anrhydedd achlysurol, mae e wedi dechrau dringo ar geir a neidio lan a lawr fel y lleban y mae e.

Mae’r tywydd yn newid o funud i funud, ac mae mynyddoedd y Preseli wedi diflannu, fel arfer. Mae Jeff y gath yn gwrthod mynd ymhellach, a chysgodi rhag y glaw o dan hen Ford Granada.

– Dwi bach yn wlyb, meddai Daf y gath, sydd bach yn wlyb.

– Wel, dere fan hyn dan y car, ‘te, meddai Jeff.

– Na, fi’n gwbod be sy’n mynd i ddigwydd nesa.

Mae Owain Glyndŵr yn dringo ar y Ford Granada a dechrau neidio lan a lawr. Does dim byd allai Dewi Sant ei wneud er mwyn ei rwystro e. Cyn bo hir, mae pen tost gyda Jeff y gath.

Saesneg / English

Unsettled weather

After the restaurant closes, the crew are wandering. They have no desire to go back to the old garden.

Owain Glyndŵr is difficult to control. As well as doing an occasional lap of honour, he has started climbing on cars and jumping up and down like the buffoon he is.

The weather changes from minute to minute, and the Preseli mountains have disappeared, as usual. Jeff the cat refuses to go further, and takes shelter from the rain under an old Ford Granada.

– I’m a bit wet, says Dave the cat, who is a bit wet.

– Well, come here under the car, then, says Jeff.

– No, I know what’s going to happen next.

Owain Glyndŵr climbs on the Ford Granada and starts jumping up and down. There is nothing that Saint David can do to stop him. Before long, there is a headache with Jeff the cat.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.