Yn ôl ar y bws teithio â nhw, ac mae eu gyrrwr dirgel yn anelu at Lerpwl.
Mae Dewi Sant a gweddill y band yn dadlwytho eu hofferynnau. Mae’n debyg eu bod nhw’n chwarae gig heno mewn ogof o dan y ddaear.
O diar.
Does dim system PA na thrydan. Yn ffodus mae peiriant drymiau Daf y gath yn rhedeg ar fatris ac mae seinydd mewnol gyda fe.
– Bydd rhaid i ti feimio, Bryn, meddai Dewi Sant.
Ond mae’r enwog Bryn Terfel eisoes yn meimio ar ei gitâr fas. Mae e wrth ei fodd yn meimio.
Mae’r gig yn drychineb. Mae tun rhostio’r enwog Bryn Terfel yn cwympo oddi ar ei ben, felly mae e’n treulio rhan fwyaf y gig yn llefain. Ac mae batris peiriant drymiau Daf y gath yn rhedeg mas hanner ffordd trwy’r sioe.
Felly dim ond Dewi Sant a Jeff y gath ar y bongos sydd yn cadw i fynd.
Mae’r gynulleidfa yn dechrau taflu diodydd at y perfformwyr.
– Os taw fi a chath ar y bongos sy’n chwarae, yna gig jazz-funk yw e, meddai Dewi Sant i’r meicroffon, cyn gadael y llwyfan.
Saesneg / English
Liverpool
Back on the tour bus with them, and their mysterious driver heads for Liverpool.
Saint David and the rest of the band unload their instruments. It seems that they are playing a gig tonight in an underground cave.
Oh dear.
There is no PA system or electricity. Fortunately Dave the cat’s drum machine runs on batteries and has an internal speaker.
– You will have to mime, Bryn, says Dewi Sant.
But the famous Bryn Terfel is already miming on his bass guitar. He loves miming.
The gig is a disaster. The famous Bryn Terfel’s roasting tin falls off his head, so he spends most of the gig crying. And Dave the cat’s drum machine’s batteries run out half way through the show.
So only Saint David and Jeff the cat on the bongos keep going.
The audience starts throwing drinks at the performers.
– If it’s me and a cat on the bongos playing, then it’s a jazz-funk gig, said Dewi Sant into the microphone, before leaving the stage.