October 17, 2024

Mae Daf y gath yn parhau i wylio digwyddiadau’r coroni ar y teledu.

Cyngerdd coroni sydd ar y bocs nawr.

Mae perfformwyr diflas yn puteinio eu hunain o flaen y Brenin Mawrglustiau a’i geffyl. Dyma rywun ar y llwyfan oedd yn enwog yn y chwedegau. Mae e ar fin marw, ac mae e’n swnio fel pla o gacwn.

Mae Daf ar fin newid y sianel pan mae rhywun arall yn ymddangos ar y llwyfan.

Mae e’n gwisgo arfwisg a thun rhostio fel het ysblennydd.

O na.

Mae’n debyg mai’r enwog Bryn Terfel mewn cuddwisg oedd “Owain Glyndŵr” yr holl amser.

Mae’r gerddorfa yn dechrau chwarae cyfeiliant i gân operatig hyfryd. Mae Bryn Terfel yn sefyll o flaen y meicroffon a threulio’r rhagarweiniad wrth fwyta banana. Wedyn, yn theatraidd, mae e’n malurio ei dun rhostio yn glachdyr, cusanu traed y Brenin Mawrglustiau a gadael y llwyfan.

Mae’r dorf yn mynd yn wyllt.

Y bradwr brwnt, meddylia Daf y gath.

Saesneg / English

Coronation concert

Dave the cat continues to watch the coronation events on television.

A coronation concert is on the box now.

Boring performers are prostituting themselves in front of King Bigears and his horse. There is someone on stage who was famous in the sixties. He is about to die, and he sounds like a plague of bees.

Dave is about to change the channel when someone else appears on stage.

He is wearing armour and a roasting tin as a splendid hat.

Oh no.

It seems that “Owain Glyndŵr” was the famous Bryn Terfel in disguise all along.

The orchestra begins to play an accompaniment to a lovely operatic song. Bryn Terfel stands in front of the microphone and spends the introduction eating a banana. Then, theatrically, he smashes up his roasting tin, kisses the feet of King Bigears, and leaves the stage.

The crowd goes wild.

The dirty traitor, thinks Dave the cat.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.