December 25, 2024

Mae Owain Glyndŵr wedi dod o hyd i forthwyl.

O na.

Yn anffodus, heddiw yw’r diwrnod mae’r Archesgob wedi penderfynu ymweld â Dewi Sant.

Yn waeth fyth!

Mae Dewi yn ceisio cuddio cannoedd o boteli gweigion yn ei sied.

Mae pawb arall yn awyddus iawn i guddio Owain Glyndŵr yn sied Dewi hefyd, ond does dim lle ar ôl.

Pan mae’r Archesgob yn cyrraedd, mae Owain Glyndŵr yn eistedd ar y ddaear a tharo tun rhostio’r enwog Bryn Terfel drosodd a throsodd â’i forthwyl, fel lembo llwyr. Mae’r sŵn yn annioddefol.

Dyw e ddim yn gwneud argraff dda ar yr Archesgob.

Saesneg / English

Hammer

Owain Glyndŵr has found a hammer.

Oh no.

Unfortunately, today is the day the Archbishop has decided to visit Saint David.

Even worse!

Saint David is trying to hide hundreds of empty bottles in his shed.

Everyone else is very keen to hide Owain Glyndŵr in Saint David’s shed as well, but there is no room left.

When the Archbishop arrives, Owain Glyndŵr is sitting on the ground and hitting the famous Bryn Terfel’s roasting tin over and over again with his hammer, like a complete buffoon. The noise is unbearable.

He is not making a good impression on the Archbishop.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.