October 17, 2024

Mae Dewi Sant wedi dod o hyd i’w hen drofwrdd o dan y sbwriel wrth glirio ei sied. Gramoffon mecanyddol yw e, gyda chorn.

Mae pentwr o hen recordiau, sydd yn dyddio’n ôl i’r pedwardegau, hefyd.

Ydy’r trofwrdd yn dal i weithio? Gadewch i ni weld.

Mae Dewi’n cylchdroi’r handlen sawl gwaith.

Ydy!

Mae cerddoriaeth ddiflas yn dod allan o’r corn. Cyn bo hir mae Dewi Sant yn dawnsio boch i foch gyda Santes Dwynwen.

Nid yw Santes Non o blaid dawnsio. Dyw hi’n sicr ddim am weld ei Hannwyl Dewi Bach yn dawnsio gyda merch.

Dyma Santes Non yn codi’r record o’r trofwrdd a’i dorri yn deilchion.

Mae Daf y gath yn anwybyddu popeth sydd yn mynd ymlaen yn yr ardd. Mae hi’n gwrando ar fetel du gyda’r staff yn y tŷ.

Saesneg / English

Cheek to cheek

Dewi Sant has come across his old turntable under the rubbish while clearing out his shed. It is a mechanical gramophone, with a horn.

There is also a pile of old records, dating back to the forties.

Does the turntable still work? Let’s see.

Dewi rotates the handle several times.

It does!

Boring music comes out of the horn. Soon Dewi Sant is dancing cheek to cheek with Saint Dwynwen.

Saint Non is not in favour of dancing. She certainly doesn’t want to see her Dear Little Dewi dancing with a woman.

Here is Santes Non, picking up the record from the turntable and smashing it to pieces.

Dave the cat is ignoring everything that is going on in the garden. She is listening to black metal with the staff in the house.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.