Mae Daf y gath a’i ffrindiau ar daith o gwmpas y ffatri siocled leol. Maen nhw wedi colli’r chwarter-siarc yn barod.
– Dyma ystafell arbennig iawn, meddai Mr. Hiliol, y perchennog. – Dyma deledu siocled.
Mae Daf yn edrych ar y set teledu, sydd yn dangos llun o Dreamies siocled. Mae hi’n amheus iawn.
Mae hi’n cyffwrdd y set teledu‘n ysgafn a chael sioc drydan.
– Peidiwch cyffwrdd y set ‘na, meddai Mr. Hiliol.
Ond mae’n rhy hwyr. Mae Eifion yr octopws eisoes yn cofleidio’r teledu. Mae sŵn erchyll wrth iddo gael ei ffrïo’n fyw.
Mae staff Mr. Hiliol yn mynd â’r corff i ffwrdd wrth ganu cân waith ddiflas.
– Stafell nesa! meddai Mr. Hiliol yn gyffrous. – Bant â ni!
– Rhaid i ni wneud rhywbeth am y bwystfil o ddyn ‘ma, sisial Margaret ferch Owain i Daf y gath.
Saesneg / English
Dave and the Chocolate Factory, part 3
Dave the cat and her friends are on a tour around the local chocolate factory. They have already lost the quarter-shark.
– This is a very special room, says Mr. Racist, the owner. – This is chocolate television.
Dave looks at the television set, which shows a picture of chocolate Dreamies. She is very suspicious.
She touches the television set lightly and gets an electric shock.
– Don’t touch that set, says Mr. Racist.
But it’s too late. Eifion the octopus is already embracing the television. There is a horrible sound as he is fried alive.
Mr. Racist’s staff take the body away while singing a miserable work song.
– Next room! says Mr. Racist excitedly. – Off we go!
– We must do something about this monster of a man, whispers Margaret ferch Owain to Dave the cat.