Mae Daf y gath a’i chwaer Jeff yn edrych yn ôl dros y flwyddyn flaenorol.
– Sai’n teimlo fel cynnal parti, â dweud y gwir, meddai Daf. – Dwi eisoes ‘di câl digon o brofiadau seicedelig ers y Nadolig, a sdim lot i’w ddathlu.
– Beth am i ni ganslo’r flwyddyn newydd a mynd ar streic mewn cydymdeimlad gyda’r gweithwyr? meddai Jeff.
– Be’ ti feddwl? Canslo 2023 yn gyfan gwbl?
– Wel, mae’n syniad.
– Ody, mae.
Felly, mae’r cathod yn canslo’r parti, a chanslo 2023.
Rhywle, mewn cornel yr ardd, mae Bryn Terfel yn llefain eto, achos nad oes cyfle iddo fe wisgo ei flodeulestr arian fel het ysblennydd.
Saesneg / English
Cancellation
Dave the cat and her sister Jeff are looking back over the previous year.
– I don’t feel like holding a party, to tell the truth, says Dave. – I’ve already had enough psychedelic experiences since Christmas, and there’s not much to celebrate.
– How about we cancel the new year and go on strike in sympathy with the workers? said Jeff.
– What do you mean? Cancel 2023 altogether?
– Well, it’s an idea.
– Yes, it is.
So, the cats cancel the party, and cancel 2023.
Somewhere, in a corner of the garden, Bryn Terfel is weeping again, because there is no opportunity for him to wear his silver flowerpot like a splendid hat.