October 16, 2024

Daeth Jeff y gath yn ôl o’r siopau gyda newyddion drwg i Daf.
– Doedd dim crwbanod neu hwyaid ‘da nhw, ond nes i brynu hwnna i ti.
Hanner siarc oedd e. Gwgodd Daf.
– Sai’n gallu jyglo â hwnna ar ei ben ei hun, meddai.
– Sai isie câl fy jyglo, yn enwedig, meddai’r hanner siarc.
– Ac… edrycha ar hwn! meddai Jeff, yn gyffrous. – Dw i’n gwisgo het newydd.
– So hwnna’n het. Madarchen yw hwn, meddai Daf, yn codi ei aeliau.
– O. Wel wedodd y siopwr taw het wedd e.
– So fe’n het. Dwi’n addo.

Ymddangosodd yr Archfadarchen.
– MILWR, bloediodd, – DEWCH YMA NAWR.
Neidiodd y madarchen oddi ar ben Jeff, cyn i’r Archfadarchen berfformio defod hynod iawn a throi Jeff mewn het fowliwr.

– Am farddol, meddai Daf.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.