Un tro, roedd Daf y gath yn edrych ar flwch o wyau a oedd wedi ymddangos yn yr ardd.
– Beth yw hwnna? gofynnodd Daf i Jeff ei chwaer wrth iddi basio.
– Sai’mod, meddai Jeff. – So fe’n edrych fel bacwn na catnip, ‘ta beth. Felly sdim ots ‘da fi. Ti’n mynd i agor e?
– Nadw, meddai Daf yn nerfus. – Allai fe fod yn fom.
– Wedd bom ‘da fi unwaith, meddai Jeff. – Sai’mod be ddigwyddodd iddo fe.
Wrth iddi orffen ei brawddeg, ffrwydrodd sied Dewi Sant.
– Ah, dyna fe, meddai Jeff.
Saesneg / English
Eggs
One day, Dave the cat was looking at a box of eggs that had appeared in the garden.
– What’s that? Daf asked Jeff her sister as she passed.
– Dunno, said Jeff. – It doesn’t look like bacon or catnip, anyway. So I don’t care. Are you going to open it?
– No, said Dave nervously. – It might be a bomb.
– I had a bomb once, said Jeff. – I dunno what happened to it.
As she finished her sentence, St David’s shed exploded.
– Ah, there it is, said Jeff.