October 16, 2024

Un diwrnod, roedd yr ardd yn dawel. Roedd Draig y ci yn bod yn fachgen da, ac roedd y madarchen ar ben Jeff yn cysgu’n sownd.

Achos bod y Frenhines Branwen wedi dinistrio fan Daf y gath, penderfynodd e chwilio am un arall.

– Nes i weud wrthot ti, meddai Jeff, ei ffrind calico, – rhaid i ti ffeindio blwch plastig. Maen nhw’n gyflymach na rhai cardbord.
– Sai’mod, meddai Daf. – Dwi’n becso am blastig. Beth am y cefnforoedd?
– Pam yffach wyt ti’n becso am y cefnforoedd? Ti’n gath, meddai Jeff.
– Dwi’n becso amdanyn nhw ‘fyd, meddai’r hanner-siarc.
– Chware teg, meddai Jeff.

Aeth Daf am dro o gwmpas yr ardd er mwyn chwilio am flwch plastig. Daeth e o hyd sawl blwch cardbord arall, ond oedden nhw rhy fach i gyd. Doedd dim blwch plastig i gael.

– Beth am ddwyn sied Dewi Sant? awgrymodd Jeff. – Mae hi’n ddigon mawr am dy ddosbarthiade. A byddai hi’n glou ac yn gynaliadwy, achos byddet ti’n ailgylchu.
–   Wel, dyna syniad, meddai Daf.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.