Un tro, roedd pawb a phopeth yn yr ardd yn toddi. Roedd hi’n anghyffyrddus iawn, heb sôn am y lleithder.
Roedd Daf y gath yn cael profiad seicedelig wrth iddi chwarae gyda madarchen. Roedd pawb arall ar fin pasio mas.
Yna, dechreuodd sied Dewi Sant doddi i ffwrdd.
– O na, meddai Jeff y gath, – Rhaid i ni neud rhywbeth.
Gwasgodd Santes Dwynwen botwm ar ei pheiriant cwstard. Roedd sŵn mawr wrth i’r peiriant gorchuddio popeth yn yr ardd â chwstard oer, trwchus.
– Dyna beth fydd angen yn y dyfodol, meddai Daf. – Os na allwn ni achub y blaned, bydd angen i bopeth gael ei orchuddio â chwstard.
– Fel cacen neis, ychwanegodd Jeff.
– Yn union fel cacen neis, meddai Daf.
Saesneg / English
Melting
One day, everyone and everything in the garden was melting. It was very uncomfortable, not to mention the dampness.
Dave the cat was having a psychedelic experience as she played with a mushroom. Everyone else was on the verge of passing out.
Then, St David’s shed started to melt away.
– Oh no, said Jeff the cat, – We must do something.
Saint Dwynwen pressed a button on her custard machine. There was a great noise as the machine covered everything in the garden with cold, thick custard.
– That is what will be needed in the future, said Dave. – If we can’t save the planet, everything will need to be covered in custard.
– Like a nice cake, added Jeff.
– Just like a nice cake, said Dave.