Un tro, roedd Mistar Pysgodyn Groovy wedi penderfynu mynd ar bererindod.
– Wyt ti’n grefyddol, ‘te? gofynnodd Jeff y gath, a oedd yn llowcio ei seithfed brecwast.
– Nadw, dwi jyst isie neud rhywbeth cyffrous, atebodd Mistar Pysgodyn Groovy. – Mae popeth mor ddiflas a disynnwyr fan hyn. Ac mae gormod o fflwff Daf ym mhobman.
Er mwyn profi’r pwynt, gwnaeth yr hanner-siarc rhywbeth a oedd yn ddiflas ac yn ddisynnwyr, ac yna parhau i jyglo.
– Ble ti mynd i fynd?
– Mynd? Ga i ddod? gofynnodd Draig y ci yn gyffrous. – Mynd i’r siop DIY! Mynd i’r siop DIY!
– Siop DFDH ti meddwl? meddai Jeff.
Roedd oediad dryslyd.
– Dinistrio Fe Dy Hunan. So’r jôc ‘na ‘n mynd i weithio yn y cyfieithiad. Eniwê, pam ti isie mynd ar bererindod i’r siop DFDH? gofynnodd Jeff.
– Mae angen teils arna i, meddai Draig y ci.
Saesneg / English
Pilgrimage, part 1
Once upon a time, Mr. Groovy Fish had decided to go on a pilgrimage.
– Are you religious, then? asked Jeff the cat, who was stuffing herself with her seventh breakfast.
– No, I just want to do something exciting, replied Mr. Groovy Fish. – It’s all so boring and senseless here. And there’s too much of Dave’s fluff everywhere.
To prove the point, the half-shark did something that was boring and senseless, and then continued juggling.
– Where are you going to go?
– Go? Can I come? asked Dragon the dog excitedly. – Go to the DIY store! Go to the DIY store!
– DIY shop you mean? said Jeff.
There was a confused pause.
– Destroy It Yourself. That joke’s not going to work in the translation. Anyway, why do you want to make a pilgrimage to the DFDH store? asked Jeff.
– I need some tiles, said Dragon the dog.