Mae Santes Dwynwen wedi bod yn gwneud caws. Mae hi wedi defnyddio cwstard i wneud y caws. Mae’r caws yn atgas.
Mae Jeff y gath yn gwyntio’r caws.
– Iesgob, meddai Jeff. – Beth yffach yw hynny?
– Dyna fy nghaws cwstard, meddai Santes Dwynwen yn browd, yn dangos pentwr o gaws drewllyd i Jeff.
– A beth yn y byd wyt ti’n mynd i wneud gyda hynny i gyd?
Yna, mae Jeff yn sylweddoli bod Daf y gath yn llowcio’r caws.
– Bydd yr hen dwpsen oren ‘na ‘n bwyta unrhyw beth, meddai Jeff, a bant â hi.
Saesneg / English
Cheese
Saint Dwynwen has been making cheese. She has used custard to make the cheese. The cheese is disgusting.
Jeff the cat is smelling the cheese.
– Jeez, says Jeff. – What the hell is that?
– That’s my custard cheese, says St. Dwynwen proudly, showing Jeff a pile of stinky cheese.
– And what in the world are you going to do with all that?
Then, Jeff realises that Dave the cat is scoffing the cheese.
– That old orange idiot will eat anything, says Jeff, and off she goes.