Ma Harri Benwyn, i ffasgydd uffernol sy’n rhedeg i Crymych Newydd, ‘di penderfynu bydd rhaid i bawb in i pentre ailymgeisio am ‘u swyddi.
Beth am i rhai sy heb swyddi?
Bydd rhaid i’ nhw ailymgeisio am yr hawl i fodoli, yn ôl Harri Benwyn.
Mowredd.
Bydd unrhyw un in câl i sac?
Siŵr o fod, ond ma’n dependo. Ma ffasgwyr in hoff iawn o neud datganiade sgubol heb istiried i canlyniade’n fanwl achos taw contied infid ‘yn nhw.
Ma Daf y Gath, fel sgrifenniddes pwllgore Harri Benwyn, in cofnodi cifarfod y pwllgor swyddi. In hollol hiderus fydd neb in gwirio ‘i gwaith hi, ma hi’n sgwennu bydd pawb in derbyn codiad ciflog, hyd yn wed y rhai sy’n neud hobls a’r rhai di-waith. Yn ôl i cofnodion bydd Harri Benwyn ‘i hunan in talu am bopeth.
Da iawn, Daf.