Ma Daf y gath ‘di mynd â Bryn Dishgled i Hwlffordd.

Pam?
Achos bod ir uffernol Harri Benwyn am iddo gâl ‘i sbaddu, a na wes sbaddwr in Crymych.
Ond ma siniade erill ‘da Daf.
Ma hi’n mynd i weld ir uwch-ffasgwyr in swyddfeydd i Cyngor Sir i gwyno. Nhw sy’n gifrifol am roid ir uffernol Harri Benwyn miwn grym, wedi’r cwbwl.
Ond in annishgwl, ma nhw’n meddwl bod yr ynfyd Bryn Dishgled in neud cais am swydd, a’i giflogi fel prentis ffasgwr yn yr adran TG.
O diar.