Mawredd, mae darnau o bethau dros y lle i gyd.
Weithiau bydd rhywbeth caled yn hedfan heibio.
Mae’r buarth mor beryglus heddiw. Beth sy’n digwydd?
Roedd yr enwog Bryn Teribl yn dechrau diflasu ar ei beiriant rhwygo, ac felly prynodd e lifanydd mainc gwaith trwm.
Beth yw’r blwch oren ‘na?
Ffwrnais chwyth yw honna. Mawredd, mae Bryn wedi gwario ei arian poced i gyd.
Beth mae Bryn yn gwneud gyda phowlen Daf y gath? Ymddengys y bydd e’n defnyddio’r llifanydd mainc i’w thorri yn ei hanner. Ond mae e’n newid ei feddwl, er mor fach yw ei ymennydd.
I mewn i’r ffwrnais chwyth â bwyd Daf!
Nid yw Daf yn hapus o gwbl.

Saesneg / English
Bench grinder
Crikey, there are pieces of things all over the place.
Sometimes something hard flies by.
The courtyard is so dangerous today. What is happening?
The famous Bryn Teribl was starting to get bored with his shredder, and so he bought a heavy duty bench grinder.
What is that orange box?
That’s a blast furnace. My goodness, Bryn has spent all his pocket money.
What is Bryn doing with Dave the cat’s bowl? It seems he will use the bench grinder to cut it in half. But he changes his mind, despite how small his brain is.
Into the blast furnace with Dave’s food!
Dave is not happy at all.